10478206_10152084020132032_3362969236593723962_n

amdano

ymholidau'r wasg a gwaith:
post@teilotrimble.cymru

bywgraffiad

Mae Teilo Trimble yn artist ac yn wneuthurwr ffilmiau llawrydd. Fe’i magwyd ym Mhontneddfechan, ym mhen uchaf Cwm Nedd, sef ardal sydd â threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog ac sydd o harddwch naturiol eithriadol; dyma ddwy thema, sy’n aml yn gwrth-ddweud ei gilydd, sy’n rhedeg trwy waith Teilo ers ei fagwraeth. Bu’r diweddar Osi Rhys Osmond yn gryn ddylanwad arno pan astudiodd oddi tano yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe, cyn i Teilo raddio maes o law o Ysgol Ffilm Ryngwladol Cymru. Yn ddiweddarach sefydlodd Teilo gwmni cynhyrchu annibynnol yng Nghaerdydd gan gynhyrchu a chyfarwyddo nifer o gynyrchiadau annibynnol, yn enwedig prosiect ffilm cymunedol “Pizzaman” yn 2008. Mae Teilo wedi gweithio mewn nifer o rolau yn gysylltiedig â gweinyddu a hyrwyddo’r celfyddydau yng Nghymru. Fe’i gwahoddwyd i gyfrannu at y llyfr “Encounters with Osi”, a chyhoeddwyd y traethawd yn 2015 ochr yn ochr ag erthyglau gan Mererid Hopwood ac Iwan Bala.

Mae wedi cydlynu prosiectau celfyddydol ar raddfa fawr i bobl ifanc ac wedi treulio cyfnod yn Ffrainc yn cyd-gyfarwyddo ffilm gymunedol o’r enw “Poisson Rouge”.
Mae Teilo yn byw gyda’i deulu yn Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth.
creu ffilmiau a chelf
Yn y genre ffilmiau dogfen, mae wedi gweithio gyda nifer o gleientiaid a sefydliadau; yn fwyaf diweddar mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau gyda Chwmni Theatr Arad Goch, a’r Cyfarwyddwr Artistig Jeremy Turner, gan gynnwys prosiectau Cyngor Celfyddydau Cymru - Ysgolion Creadigol Arweiniol a Chydweithio Creadigol. Mae Teilo yn artist amlddisgyblaeth sy’n defnyddio fideo yn bennaf, a phaentio. Wrth gydweithio â’i frawd, y bardd Rhys Trimble, maent wedi arddangos gosodiadau fideo “Sgriniau Teledu/TV Screens” a “Cych” yn y Bocs Caernarfon, Canolfan Arad Goch ac mewn sawl gŵyl ryngwladol.
Gan ddefnyddio collage, paent ac yn aml yn cynnwys gwrthrychau y daeth “o hyd” iddynt a “chynfasau” byrfyfyr, mae gwaith Teilo yn bennaf yn adfyfyrio ar y dirwedd, ac yn cyfeirio at fytholeg Cymru, gweledigaethau’r gorffennol a’r dyfodol a ffigyrau mor amrywiol â Carwyn Jones, Katy Perry a Bendigeidfran. Cânt eu gosod yn y dirwedd, yn aml yn haenog, wedi’u gorchuddio, yn diflannu ac yn ailymddangos wrth i baent, sialc, pastel olew, a haenau inc gael eu hychwanegu a’u dileu.  Mae Teilo wedi gweithio ar gyfres o forluniau wedi’u hysbrydoli gan arfordir Ceredigion a’r gerdd “Gorwel” gan Dewi Emrys; ac ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfres newydd wedi ysbridoli gan teithio ar ffyrdd Cymru.